SL(6)536 – Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Chydlynu Trefniadau Derbyn Ysgolion) (Cymru) 2024
Cefndir a diben
Mae Rheoliadau Addysg (Cydlynu Trefniadau Derbyn Ysgolion a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024 (“Rheoliadau 2024”) yn gwneud darpariaethau mewn perthynas â’r ddyletswydd ar awdurdodau lleol i weithredu cynllun cymhwysol ar gyfer cydlynu trefniadau derbyn ysgolion a gynhelir ganddynt.
Roedd Rheoliadau 2024 hefyd yn diwygio Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011 i’w gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gynnwys yn ei brosbectws cyfansawdd grynodeb o gynllun cydlynol yr awdurdod lleol ynghyd ag esboniad clir o’r camau yn y broses o wneud cais am le mewn ysgol.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud cywiriadau technegol yn bennaf i Reoliadau 2024, a amlygwyd yn adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar Reoliadau 2024, dyddiedig 5 Mehefin 2024.
Y weithdrefn
Negyddol
Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu’r Rheoliadau o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu, neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i’r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.
Materion technegol: craffu
Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.2(ii) – ei bod yn ymddangos ei fod yn gwneud defnydd anarferol neu annisgwyl ar y pwerau a roddwyd gan y deddfiad y mae wedi’i wneud neu y mae i'w wneud odano.
Nid yw’n glir pam y dibynnwyd ar adran 89C(2) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 fel pŵer galluogi. Gan fod y rheoliadau diwygio hyn yn fwy cul eu cwmpas na Rheoliadau 2024, ymddengys fod pŵer galluogi ehangach adran 89C(1) yn fwy priodol nag adran 89C(2).
Nodir hefyd fod paragraff 3.5 o’r Memorandwm Esboniadol yn aralleirio’r pŵer yn adran 89C(1) yn hytrach na 89C(2). Dywed fod “adran 89C yn datgan y caniateir gwneud rheoliadau ynghylch cynnwys cynlluniau cymhwysol, gan gynnwys y dyletswyddau a osodir gan gynlluniau o'r fath ar awdurdodau lleol ac awdurdodau derbyn ysgolion”.
Rhinweddau: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru i’r pwynt craffu technegol.
Trafodaeth y Pwyllgor
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn yn ei gyfarfod ar 21 Hydref 2024 ac mae'n cyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd uchod.